top of page

 

Bywgraffiad

 

 

Mae Steffan Llewelyn yn fachgen  llais Treble ac yn 15eg mlwydd oed sydd yn hoff iawn o opera a cherddoriaeth glasurol. Mae'n mwynhau chwarae'r piano.   Mae wedi cyflawni cymwysterau cerddoriaeth yn ddiweddar; ABRSM Canu Gradd 4 ,5,7 ac 8 gyda Rhagoriaeth, ac yn bresennol yn gweithio tuag at gael ei Ddiploma Cerddorol ABRSM, gan obeithio ei gwblhau dros y Pasg 2019. Mae Steffan wedi cwblhau Theori Gradd 1,2 a 5 gyda Rhagoriaeth a Phiano Gradd 1 gyda Theilyngdod ac ar hyn o bryd yn gweithio tuag at Gradd 6 Theori ma piano Gradd 5, a'r Fedel Aur Gorawl RSCM. Bu i Steffan perfformio cynifer o unawdau yn Eglwys Gadeiriol Bangor, un o'i hoff ddarnau yw'r 'Magnificat gan Stanford yn G' mae ef wedi canu amrywiaeth o unawdau trebl adnabyddus. Yn ystod y 'Cyngerdd Nadolig Mil o Gannwyllau 2014' canodd Mozart Exsultate Jubilate Allelluia. Enillodd ysgoloriaeth y Canghellor ar gyfer 2015/2016 ym mis Hydref 2015, mae'r ysgoloriaeth a'r medal yma yn cael ei roi ar gyfer cysondeb a gyflwynwyd iddo mewn gwasanaeth arbennig gan Ganghellor yr Esgobaeth ym mhresenoldeb Esgob Bangor, fodd bynnag, penderfynodd Steffan i adael côr y Gadeirlan ac mae y nawr wedi ymuno â Chôr gwisgoedd Eglwys y Santes Fair yng Nghonwy (sydd yn enwog am y bedd '' we are seven'').   Daeth ei gariad tuag at  ganu yn amlwg pan gafodd y rhan blaenllaw mewn cynhyrchiad ysgol o 'Cinderella'.

 

Cafodd Steffan y cyfle i gymryd rhan fel unawdydd mewn nifer o gyngherddau, gan gynnwys cyngerdd 'Paradwys' Shan Cothi ym mis Tachwedd 2015 a chyngerdd 'Tonic' gyda Rhys Meirion ym mis Rhagfyr 2015 a sawl perfformiad gyda Canolfan Gerdd William Mathias, sef ' Llwyfan Gerdd ' a gynhaliwyd yn y Galeri, Caernarfon rhwng 2014 a 2016 .   Hefyd, daeth iddo wahoddiad gan St Joseph Schola yn Eglwys Gatholig St Joseph, Pwllheli i ganu yn eu Gwasanaeth Nadolig Blynyddol Gwersi a Charolau. https://walesexpress.com/carol-service-to-be-held-in-pwllheli/

.Mae hefyd wedi canu yn eu cyngerdd ym mis Awst 2015 .

 

Yn ddiweddar, mae Steffan wedi cymryd rhan mewn sioe gerdd yr ysgol o'r enw ' Bancsi Bach' . Ymddangosodd Steffan ar y rhaglen deledu ' Dechrau Canu Dechrau Canmol ' (y fersiwn Gymraeg o Songs of Praise) yn canu ' Ave Maria ' gan Bach / Gounod . Ar hyn o bryd mae'n mynd i ddosbarthiadau perfformiad yn Pontio ym Mangor. Mae ef yn mynychu Theori cerddoriaeth a gwersi canu yn y Galeri yng Nghaernarfon tra bod gwersi piano yn rhaid ar foreau Sadwrn. Gan ei fod yn y tymor Eisteddfod , bydd Steffan hefyd yn cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau canu yn yr ardal.  

 

Cafodd Steffan gyfweliad ar Radio Cymru, darlledwyd ar 26 Ebrill, gellir ei glywed yma:

 

Bu i Steffan chwarae rhan nai Linda Brown ar rhaglen 'Run Sbit' gan Cwmni Da.  Gellir ei weld ar clic ar s4c neu ar sianel youtube Steffan.

 

 

Mae steffan yn ddiweddar wedi ennill y Wobr Fedal Arian Corawl (RSCM) gyda Clod Uchel.

 

 

Gallwch ddilyn Steffan ar ei dudalen Twitter swyddogol:

@ steffllewelyn

 

hefyd cliciwch yma ar ei sianel ar youtube er mwyn clywed rhai o'i ganeuon

Steffan Llewelyn           Treble

bottom of page